City Of Arcades Yn Lansio Gêm Fwrdd Unigryw Wrth i Gaerdydd droi'n Brofiad i Unigolion Chwarae Gyda'i Gilydd ar raddfa fawr 

Mae gêm fwrdd newydd ac unigryw ar thema Caerdydd yn lansio ar Ddiwrnod City of Arcades, gan arddangos saith arcêd a thirnodau hanesyddol y ddinas. 

Ddydd Sadwrn, 18 Tachwedd, bydd gêm fwrdd anferth ar thema City of Arcades yn ymddangos yn y Sgwâr yng nghanol y ddinas, ger Gorsaf Ganolog Caerdydd. 

Rhwng 10:30 a 16:30 (gydag egwyl rhwng 12:45 – 2pm), bydd ymwelwyr yn cael cyfle i chwarae'r gêm fwrdd maint llawn, gan fynd heibio'r arwydd “ewch” ac osgoi’r carchar, am gyfle i ennill un o 60 o ostyngiadau a gwobrau gan gynnwys gêm fwrdd rhifyn cyfyngedig City of Arcades. 

Mae gwobrau eraill yn cynnwys gwely a brecwast i ddau yn Hotel Indigo, pecyn sba gan Laguna Health & Spa a thaleb £50 ar gyfer Bwyty Bill's. Cliciwch yma i weld y rhestr lawn o’r gwobrau y gallwch eu hennill! 

Ochr yn ochr â’r gêm fwrdd maint llawn, bydd canol y ddinas yn cael ei drawsnewid yn brofiad llawn chwarae gyda gemau yn y siopau a llwybr sy’n addas i deuluoedd. 

Gwahoddir ymwelwyr i gasglu llyfr chwarae Diwrnod City of Arcades o Ddesg Gwasanaeth Ymwelwyr ar lawr uchaf canolfan siopa Dewi Sant a dod o hyd i bob un o'r 14 teils gêm sydd wedi'u lleoli ar dirnodau ar draws y ddinas. 

Ym mhob lleoliad bydd angen i’r chwaraewyr ddatrys cwestiwn cyn dychwelyd eu llyfrau chwarae i ddesg Gwasanaeth Ymwelwyr Dewi Sant i ‘w gyfnewid am fag o ddarnau o arian siocled. 

Bydd digwyddiad Diwrnod City of Arcades - a drefnir gan Ardal Gwella Busnes Caerdydd, Caerdydd am Byth - hefyd yn cynnwys dros 100 o ddigwyddiadau, gostyngiadau a phrofiadau ledled canol y ddinas. 

Ymhlith y digwyddiadau ar y diwrnod bydd stondin gan Pettigrew Bakeries, cystadleuaeth bwyta wystrys yn Jackson's a noson gomedi yn Beyond Retro a gynhelir gan Lorna Pritchard gyda Leroy Brito. Cliciwch yma i weld beth sydd ymlaen. Efallai y bydd angen i chi archebu lle ymlaen llaw. 

Dywedodd Carolyn Brownell, Cyfarwyddwr Gweithredol (Dros Dro) Caerdydd am Byth: 

“Mae ein dathliad blynyddol arobryn o’n prifddinas unigryw a’i harcedau eiconig yn foment yng nghalendr digwyddiadau Caerdydd, ac eleni mae’n arbennig o arbennig gyda chreu City of Arcades: Y Gêm. 

Ni allwn aros i groesawu pobl i chwarae’r gêm maint llawn yn y Sgwâr yng nghanol y ddinas, archwilio’r arcedau, a mwynhau’r gwahanol ddigwyddiadau sydd ar gael ar draws canol y ddinas.” 

Er mwyn helpu ymwelwyr i deithio i Gaerdydd ar gyfer Diwrnod City of Arcades ac yn ystod tymor yr ŵyl, mae Caerdydd am Byth wedi ariannu gwasanaeth Parcio a Theithio yn Neuadd y Sir (Bae Caerdydd) i Canal Street (canol dinas Caerdydd) ar ddydd Sadwrn rhwng 18 Tachwedd a 23 Rhagfyr. 

Bydd cost o £4 y car am y gwasanaeth a bydd yn rhedeg o 9am tan 7:30pm bob 20 munud gyda bws ychwanegol rhwng 12 a 5pm. Mae tocynnau ar gael i'w prynu ar y diwrnod yn Neuadd y Sir. 

Cliciwch yma i weld y rhestr lawn o ddigwyddiadau Diwrnod City of Arcades, y gostyngiadau a’r gwobrau sydd ar gael a chynlluniwch eich diwrnod. 

Previous
Previous

Cardiff Park and Ride: Enjoy Christmas Shopping Without the Hassle

Next
Next

City of Arcades launches exclusive board game as Cardiff turns into a giant play along experience