City of Arcades

View Original

Llwybr goleuni cyffrous yn ganolbwynt i’r Nadolig yng Nghaerdydd

Bydd llwybr goleuni newydd yn ganolbwynt i’r Nadolig yng Nghaerdydd eleni gydag 11 gosodiad yn lansio ddydd Iau 14 Tachwedd.

Mae llwybr Goleuni’r Gaeaf, a gyflwynir gan FOR Cardiff, yn weithgaredd cyffrous am ddim a gynhelir rhwng 14 Tachwedd a 5 Ionawr, yn arwain ymwelwyr o amgylch y ddinas dros gyfnod yr ŵyl.

Fel rhan o lwybr Goleuni’r Gaeaf, bydd Sgwâr Canolog Caerdydd yn cael ei drawsnewid gyda thafluniad gweledol a sain o’r enw Awrora Caerdydd a fydd yn goleuo wyneb Gorsaf Caerdydd Canolog rhwng 5pm a hanner nos bob nos.

Comisiynwyd Awrora Caerdydd ar ran FOR Cardiff ym Mharc Bute, a bydd yn adrodd hanes noson o aeaf wrth i drenau o’r gorffennol a’r dyfodol gludo ymwelwyr o goedwigoedd Cymru i oleuadau disglair Caerdydd. Bydd y tafluniad a ddyluniwyd gan artistiaid mapio taflunio Illuminos gyda darluniau gan bedwar artist o Gymru, sef Sahar Saki, Jack Skivens, Frank Duffy, a Beth Blandford, yn adrodd hanes celfyddyd, traddodiad a llên gwerin Cymru.

Bydd y profiad goleuni a sain rhyngweithiol, Illuminated Reeds Symphony, hefyd yn dychwelyd i gamlas gyflenwi dociau Caerdydd am yr ail flwyddyn. Mae’r gosodiad, a ddyluniwyd gan artistiaid o Gymru ac a gomisiynwyd ar ran FOR Cardiff ym Mharc Bute, yn dynwared cyrs yn arnofio ar ddŵr, gyda goleuadau LED a synau cefn gwlad Cymru yn dod yn fyw pan fyddwch yn neidio, troedio neu ddawnsio ar badiau rhyngweithiol ar y llawr.

Bydd arcedau Fictoraidd ac Edwardaidd Caerdydd hefyd yn cael eu trawsnewid fel rhan o lwybr Goleuni’r Gaeaf. Cafodd y cynllun goleuadau Nadoligaidd ei gyflawni diolch i gyllid gan Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU. Bydd arcedau hanesyddol Caerdydd yn cael eu haddurno gyda llusernau, goleuadau a garlantau Nadoligaidd wedi’u hysbrydoli gan dreftadaeth 19eg ganrif yr adeiladau fel rhan o’r gosodiad.

Bydd llwybr Goleuni’r Gaeaf yn cael ei oleuo am y tro cyntaf nos Iau 14 Tachwedd, gan sbarduno tri diwrnod o ddathliadau i nodi dechrau’r Nadolig yng Nghaerdydd.

Am 5pm ddydd Iau 14 Tachwedd, bydd gosodiad goleuadau Nadolig Cardiff Kids a ddyluniwyd gan ddisgyblion Ysgol Gynradd St Cuthbert, Tre-biwt, yn cael ei ddatgelu ar Stryd y Frenhines, Caerdydd, a bydd Awrora Caerdydd yn cael ei oleuo’n fuan wedyn am 6.30pm. Bydd bandiau pres, cerddwyr ar stiltiau, diddanwyr plant a pherfformwyr golau LED yn diddanu’r dorf yn y Sgwâr Canolog, Yr Aes, Stryd y Frenhines a’r Stryd Fawr.

Nos Wener 15 Tachwedd, bydd Marchnad Nos Caerdydd yn dychwelyd fel rhan o’r digwyddiad Dinas yr Arcedau: Caerdydd ar ôl iddi nosi. Am un noson yn unig, bydd Marchnad Caerdydd ar agor tan 9pm, a bydd siopau, bariau a bwytai yng nghanol dinas Caerdydd yn cynnal digwyddiadau unigryw gyda’r nos, o flasu sieri i wneud siocled.

Ddydd Sadwrn, 16 Tachwedd, bydd Diwrnod Dinas yr Arcedau yn dychwelyd gyda theithiau tywys, cynigion arbennig a digwyddiadau mewn siopau. Mae Diwrnod Dinas yr Arcedau a lansiwyd yn 2019 wedi ennill nifer o wobrau cenedlaethol a rhyngwladol ac wedi denu miloedd o ymwelwyr i brif ddinas Cymru. Gallwch weld yr holl ddigwyddiadau yma https://www.thecityofarcades.com/2024

Meddai Emily Cotterill, Cyfarwyddwr Cyswllt FOR Cardiff:

“Mae’r Nadolig bob amser yn gyfnod cyffrous yng Nghaerdydd, gyda chymaint i’w weld a’i wneud i bobl o bob oedran.

“Eleni, rydym ni wrth ein bodd ein bod wedi gallu creu rhywbeth newydd gyda goleuadau’r Nadolig sy’n cyfuno’r gorau sydd gan y ddinas i’w gynnig dros y Nadolig, ynghyd â llu o ddigwyddiadau am ddim i bawb allu eu mwynhau. Bydd yr arddangosiad yn y Sgwâr Canolog yn rhoi cyfle i ymwelwyr sy’n cyrraedd Caerdydd ar y trên a’r bws gael golwg ddisglair ar y ddinas.

“Gobeithiwn y bydd yr holl ddigwyddiadau hyn yn annog mwy o bobl i archwilio’r ddinas a phopeth sydd ganddi i’w gynnig dros dymor y gaeaf.”

Meddai Natalie Isaac, cyfarwyddwr Forty Four Group:

“Mae Diwrnod Dinas yr Arcedau bob amser yn achlysur gwych gan ei fod yn denu pobl newydd i ganol y ddinas. Mae pobl yn edrych ar fusnesau newydd nad oeddent wedi’u gweld o’r blaen o ganlyniad i gynigion arbennig a digwyddiadau.

“Gwyddwn fod pobl yn ceisio arbed arian ar gyfer y Nadolig ar yr adeg hon o’r flwyddyn, ond mae’n braf gweld pobl yn dod allan i ymweld â chanol y ddinas anhygoel hon. Y llynedd, roedd pobl wrth eu bodd gyda’n cynnig brecwast, ac fe wnaeth y cynnig annog pobl i ddod i mewn i flasu ein bwyd, gan ein helpu i ddenu cwsmeriaid newydd.

Gall ymwelwyr ddarganfod mwy am y Nadolig yng Nghaerdydd drwy fynd i wefan Croeso Caerdydd.

Bydd map Llwybr Goleuo’r Gaeaf ar gael i’w lawrlwytho o 11 Tachwedd, gyda chopïau caled ar gael mewn lleoliadau penodol ar draws y ddinas.